Y mae Ffoton yn gymuned ffotograffig a'i fryd ar ddarganfod a hybu talent broffesiynol a newydd ar draws sawl genre yng Nghymru.

Ganwyd Ffoton allan o rwystredigaeth a'r diffyg sylw i waith ffotograffwyr Cymru.

Er bod nifer helaeth o ffotograffwyr talentog yn byw a gweithio yng Nghymru mae eu gwaith yn gudd i gynulleidfa ehangach. Yr ydym yn credu byddai llwyfan newydd yng Nghymru o fydd i ffotograffwyr i drafod eu syniadau a'u celfyddyd.

Mae Ffoton ar daith o gwmpas Cymru i ddarganfod ffotograffwyr sy'n haeddu sylw amlycach. Bydd y sgyrsiau ar ffoton yn cwmpasu pob agwedd o'i gwaith. Bydd y sgyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Ein gobaith yw bydd ffoton yn sbardun i gyfathrach rhwng ffotograffwyr yng Nghymru ar lein ac yn gyffredinol. Ymunwch a ni a mwynhau'r siwrne.

Hyderwn byddwch yn ymuno yn y sgwrs ac yn rhannu eich syniadau ar ein tudalennau ymateb a bod yn rhan o arddangosfeydd a digwyddiadau ffoton yn y dyfodol.

Mwynhewch arlwy ffoton!

Hwyl!
Emyr & Brian


BRIAN CARROLL

Brian Carroll dylunydd graffeg a chynhyrchydd fideo sy nawr yn dymuno bod yn well ffotograffydd.

www.jazzyfingers.com
@jazzyfingers

EMYR YOUNG

Emyr Young arfer bod yn actor yn gyfarwyddwr yn gynhyrchydd ond erbyn hyn yn ffotograffydd sy'n breuddwydio bod yn arlunydd weithiau.

www.emyryoung.co.uk
@EmyrYoung

GLYN SHAKESHAFT

Glyn Shakeshaft is a Film and Television editor who was previously a professional photographer and dearly wishes he had his own website.
@gutopenylan